Eich cyf/Your ref

Ein cyf/Our ref MB/AD/4159/13

 

 

Dafydd Elis-Thomas AC

Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

 ES.comm@wales.gov.uk

 

 

 

Medi 2013

 

 

 

 

 

 

 Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaladwyedd – polisi dŵr yng Nghymru

 

Diolch am eich llythyr dyddiedig 13 Awst ynghyd â’r copi o adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaladwyedd ar Bolisi Dŵr yng Nghymru.

 

Rwyf i’n croesawu cyhoeddi’r adroddiad ac wedi nodi canfyddiadau’r pwyllgor. Hoffwn rannu diweddariad am ein polisi ar fforddiadwyedd dŵr gyda chi a thrafod eich argymhellion mewn perthynas â mesuryddion a diwygio’r farchnad.

 

Fforddiadwyedd Dŵr

 

Ers cyhoeddi ein Canllaw Tariffau Cymdeithasol ar 1 Mawrth, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda’r cwmnïau dŵr i ddatblygu opsiynau i fynd i’r afael â chwestiynau fforddiadwyedd. Mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng cost talu am y cyfryw fesurau ac unrhyw gynnydd dilynol mewn biliau dŵr. Bydd angen ystyried effaith unrhyw gynnydd mewn biliau dŵr yn ofalus er mwyn sicrhau na fydd cwsmeriaid yn gyffredinol  yn cael eu gorlethu a bydd angen dangos bod y cynigion yn dderbyniol i gwsmeriaid er mwyn sichrau cymeradwyaeth Ofwat. 

               

Yn ogystal â monitro cyflenwi, defnydd ac effeithiolrwydd unrhyw dariffau cymdeithasol byddwn ni hefyd yn ceisio dynodi bylchau yn y ddarpariaeth cymorth fforddiadwyedd i gwsmeriaid a chreu cyswllt â’r gwasanaethau cynghori ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu.

 

 

 

 

 

 

Ym mis Mehefin cyhoeddom ni ymgynghoriad ar fynd i’r afael â ‘dyledion drwg’ o fewn y diwydiant dŵr yng Nghymru. Rydym yn ceisio barn am y “Rheoliadau Gwybodaeth Dŵr a Charthffosiaeth (Meddianwyr nad ydynt yn Berchenogion)” er mwyn ei gwneud yn bosibl i ddarparu’r wybodaeth hon am eiddo a wasanaethir gan gwmnïau dŵr a charthffosiaeth sy’n gweithredu’n llwyr neu’n bennaf yng Nghymru.

Byddai’r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd ar berchnogion yr eiddo, landlordiaid fel arfer, i roi manylion am eu henw a’u cyfeiriad eu hunain ynghyd ag enw a dyddiad geni’r preswyliwr (tenant fel arfer) a’r dyddiad y symudodd i mewn i’r eiddo, i’r cwmni dŵr perthnasol. Byddai hyn yn ei wneud yn haws i’r cwmnïau dŵr gasglu tâl am filiau oddi wrth y preswyliwr. Pe bai perchennog yn dewis peidio â darparu’r manylion hyn o fewn cyfnod penodol o amser byddai’n atebol ar y cyd ac yn unigol am y taliadau dŵr yn yr eiddo hwnnw hyd nes y byddai’n darparu’r wybodaeth angenrheidiol.

 

Nid yw’n fwriad gan y rheoliadau hyn i wneud perchnogion yn atebol am ddyledion dŵr tenantiaid yn eu heiddo, dim ond sicrhau bod y sawl nad yw eisoes yn darparu’r wybodaeth hon yn gwneud hynny. Ni ddylai darparu’r wybodaeth hon osod unrhyw faich sylweddol na llethol ar landlordiaid a dyma yw’r lleiaf sydd ei angen er mwyn gallu mynd ar ôl y ddyled.

 

Mesuryddion Dŵr

 

Rwyf i’n cytuno â’r farn a fynegwyd gan y Pwyllgor fod rhaid i ni ystyried effaith mesuryddion dŵr ar bobl dlotach, ac y dylai tariffau priodol gyd-fynd ag unrhyw bolisi o ehangu mesuryddion dŵr yn y dyfodol er mwyn sicrhau nad yw cwsmeriaid tlotach yn cael eu cosbi. Byddai angen sicrhau deunydd addysgol gwell i gefnogi rhaglen o fesuryddion i Gymru er mwyn helpu i hybu newid mewn ymddygiad o ran effeithlonrwydd dŵr yn y cartref a hefyd ar gyfer rheoli’r hyn a ddaw’n adnodd mwyfwy gwerthfawr mewn modd cynaliadwy yn ehangach.

 

Rwyf i wedi ymrwymo i sicrhau system o daliadau dŵr sy’n deg a thryloyw ar gyfer pob math o gartrefi a busnesau. Byddai angen i unrhyw raglen arfaethedig o osod mesuryddion gael ei chyflenwi ar y cyd â strwythurau costau arloesol a fyddai’n cynnwys tariffau cymdeithasol, er mwyn sicrhau nad yw’r rheini sydd â chartrefi mwy o faint neu broblemau fforddiadwyedd yn cael eu cosbi. O’u gosod ochr yn ochr â’n Canllaw Tariffau Cymdeithasol a pholisïau eraill Llywodraeth Cymru, rwyf i’n credu y gall cwmnïau dŵr sicrhau cynlluniau talu teg a chyfiawn, yn seiliedig ar ddefnydd.

 

Diwygio’r Farchnad

 

Comisiynwyd yr astudiaeth i edrych ar fframwaith rheoleiddiol a deddfwriaethol cyfredol y diwydiant dŵr yng Nghymru ar 7 Mehefin 2013 ac mae’r gwaith hwn wedi dechrau. Bydd yn asesu fframwaith rheoleiddiol a deddfwriaethol presennol Cymru (llinell sylfaen). Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddeall a yw’r gyfundrefn reoleiddio gyfredol yng Nghymru yn addas i’r diben ac ymchwilio i opsiynau amgen a fydd yn sicrhau bod cwsmeriaid yng Nghymru yn derbyn y gwasanaeth gorau ac yn parhau i annog ein cwmnïau dŵr i gofleidio gofynion effeithlonrwydd. Bydd yr opsiynau hyn yn cynnwys rheoleiddio a chymell cryfach ynghyd â datrysiadau marchnad. Byddaf yn cyhoeddi’r canfyddiadau pan fydd y gwaith wedi’i gyflawni yn gynnar y flwyddyn nesaf.

 


Gallaf eich sicrhau y byddwn yn rhoi ystyriaeth i argymhellion y pwyllgor wrth i ni ddatblygu ein polisïau yn y dyfodol ar gyfer dŵr yng Nghymru. Mae fy swyddogion wedi bod yn cysylltu’n helaeth gyda rhanddeiliaid wrth ddatblygu drafft y Strategaeth Dŵr i Gymru ac rwyf i’n croesawu eich cefnogaeth i’r gwaith hwn. Fy mwriad o hyd yw ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn ddiweddarach eleni.

 

 

 

 

 

 

 

Alun Davies AC / AM

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Minister For or Natural Resources and Food